CAW198 Unigolyn

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Unigolyn

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Yn rhannol

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

A.  HANES CYMRU Cytunaf yn llwyr â phwysigrwydd Hanes Lleol ond mae angen cyflwyno rhywfaint ar Hanes Cymru yn gyffredinol, heb anghofio’r cysylltiadau â gwledydd eraill.

Gan na roddir arweiniad clir ni allaf gefnogi’r datganiad penagored sy’n rhoi rhwydd hynt i athro wneud fel y mynno wrth benderfynu ar ei faes llafur a pha ddigwyddiadau a phynciau a gaiff eu hastudio.  Mae’n wir y bydd cyfleoedd i ysgolion sy’n dymuno hynny roi sylw teilwng i Hanes Cymru ond bydd yn bosibl i lawer iawn o ysgolion hefyd barhau i roi sylw annigonol i’r pwnc fel yr adroddwyd gan y tasglu dan gadeiryddiaeth Dr Elin Jones ym Medi 2013.

Pe bai pob disgybl yn cael y profiad o ymddiddori yn hanes ei wlad, fel y gwneir ym mhob gwlad  wâr,  buasai yn ymhyfrydu ei fod yn ddinesydd cyfrifol.

Ac fe’ch atgoffaf am y deisebau lu a gyflwynwyd ers tro byd i Lywodraeth Cymru yn erfyn  am roi sylw dyladwy i Hanes Cymru yn ein hysgolion. 

B. Y GYMRAEG   Hanfod llwyddiant ysgubol y dull o ddysgu Cymraeg yw trochi - nid yn unig o safbwynt addysg feithrin ond yn y Canolfannau Iaith (e.e. yng Ngwynedd). Mae’r canlyniadau yn  syfrdanol.   Ond un o egwyddorion sylfaenol y Mesur hwn yw cynnwys Saesneg yn y rhestr o elfennau gorfodol/mandadol a’r angen wedyn i greu darpariaeth i ddatgymhwyso Saesneg hyd at 7 oed. A hynny er gwaethaf yr ymrwymiad ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg!  Nid oedd adroddiad Donaldson, a dderbyniwyd yn llawn gan y Llywodraeth, yn argymell gwneud Saesneg yn elfen orfodol.   Canlyniad hyn fydd tanseilio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Credaf fod gwir angen deddfwriaeth gadarn i sicrhau fod pob disgybl yn siarad Cymraeg yn rhugl erbyn iddo adael yr ysgol yn 16 oed yn hytrach na’i hystyried yn eilradd i’r Saesneg – yr iaith nad oes angen ei gwarchod oherwydd ei statws fwyafrifol.

Y sefyllfa erbyn hyn yw fod pob plentyn o Gymro a Chymraes yn gadael yr ysgol yn hollol ddwyieithog.  Buasai deddfwriaeth gadarn yn sicrhau fod pob disgybl Saesneg ei iaith (neu iaith arall) hefyd yn ddwyieithog (neu amlieithog) ac yn siarad Cymraeg yn rhugl erbyn iddo adael yr ysgol yn 16 oed. Ni ddylai’r Gymraeg gael ei hystyried yn eilradd i’r Saesneg yn unol â’r Ddeddf. 

 

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Diffyg dealltwriaeth o’n hanes fel cenedl a’r modd y mae’n rhaid brwydro’n barhaus am ein hawliau i siarad ein hiaith ac i warchod ein hetifeddiaeth.

Colli athrawon ymgynghorol arbenigol oherwydd diffyg cyllid penodol wedi ei neilltuo i’r pwrpas o ddysgu proffesiynol.

 

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

-

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

-

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

-